Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Medi 2018
Amser:
08.57 -
12.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5161
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Siân Gwenllian AC Jenny Rathbone AC David Melding AC |
Tystion: |
Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Gareth Williams, Cyngor Sir Caerfyrddin Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Emma Williams, Llywodraeth Cymru Helen Kellaway, Llywodraeth Cymru Huw Charles, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Megan Jones (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jack Sargeant AC a Bethan Sayed AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Gareth Williams, Rheolwr Asiantaeth Llety (Iechyd yr Amgylchedd, Llety Dros Dro, Gosodiadau Cymdeithasol a Datblygu Sector Preifat), Cyngor Sir Gâr
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio
· Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
· Helen Kellaway, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru
· Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru
3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r canlynol:
· trosolwg o'r hyn a gaiff ei gynnwys yn y canllawiau i denantiaid a landlordiaid cyn i'r Bil ddod i rym. Ymrwymwyd i ddarparu'r trosolwg hwn cyn dechrau'r gwaith o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 2.
· nodyn i egluro pam y mae angen y darpariaethau a geir yn y Bil ar hyn o bryd o ran yr hawl i rentu.
· rhagor o wybodaeth am sut y bydd y Ddeddf yn cael ei gwerthuso unwaith y daw i rym.
· eglurhad ynghylch pam nad yw'r Bil yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gynorthwyo deiliaid contract i adennill taliadau gwaharddedig.
4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion
4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru
4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru
4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru
4.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20
4.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan randdeiliaid mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)
4.7a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)
4.8a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â digwyddiadau’r rhaglen Senedd@
4.9a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â thlodi
4.10a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol.
7.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.